Nos Fercher 18 Mawrth, 6yh
Lefel 2, Pontio, Bangor
Am ddim ac nid oes angen tocyn
- Gweinir diodydd ar lefel 2.
- Bydd y ffilm wedi ei osod ar y sgrin fawr ar lwp – is-deitlau, dim sain.
- Bydd Eve Goodman yn perfformio yn o gofodau cyhoeddus a PL2.
- Cymen wedi ei bwcio er mwyn cyfieithu ar y pryd.
- Bydd bwrdd wedi ei osod ar gyfer arddangos crawio plu.
6pm - Cyfle i bawb estyn diod, gwylio crawio, sbied ar y ffilm a sgwrsio.
6.25pm - Croeso gan Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Artistig Pontio. Egluro trefn y noson.
6.30pm - 2 gân gan Eve Goodman tu allan i’r Stwidio.
6.40pm - Symud i PL2. Darparu clustffonau cyfieithu ar y pryd.
6.45pm - Eifiona yn cyflwyno’r ffilm a diolch i Rhys Edwards am ei waith.
6.55pm - Sgwrs panel – gweler manylion isod.
7.45pm - Osian i gyflwyno 2 gân arall gan Eve Goodman yn PL2.
8pm - Osian i ddiolch i bawb a chloi.
Sgwrs Panel: Eifiona Thomas Lane yn Cadeirio. Huw Hughes a Robin Parry, Cymdeithas Pysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni, ac Elen Bonner.
- Eifiona i sôn rhywfaint am yr LPIP yn gyffredinol, ac amcan y noson, sef trafod enghraifft o TDdA leol a’i arwyddocâd i ni heddiw. Cyflwyno pawb ar y panel.
- Cwestiwn i Elen – fedrwch chi sôn rhywfaint am amcan yr ymchwil yn Nyffrynnoedd Tanat a Banw a Bro Dysynni a’r perthnasedd i’n sgwrs ni heno? hy. archwilio i ddiwylliant gwledig a beth sy’n ei gynnal
- Cwestiwn i Huw/Robin – fedrwch chi sôn rhywfaint am weithgareddau cyfredol y gymdeithas?
- Cwestiwn i Huw/Robin – fedrwch chi sôn rhywfaint am hanes Cymdeithas Pysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni
- Cwestiwn i Elen - Beth yw Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol neu treftadaeth fyw? hy. y wybodaeth a’r traddodiadau a etifeddir gan genedlaethau blaenorol ac sy’n cael eu trosglwyddo i’n disgynyddion. Mae’n cynnwys traddodiadau llafar, celfyddydau perfformio, arferion cymdeithasol, defodau a gwyliau, gwybodaeth am natur a’r bydysawd a chrefftau traddodiadol.
- Cwestiwn i Elen – Sut mae hyn yn cymharu gyda’r gwaith ymchwil?
- Cwestiwn i Huw/Robin – Sut ydych chi wedi derbyn y wybodaeth hyn ac wedi dysgu’r sgiliau yma’n bersonol? Sut mae’n nhw’n cael ei pasio ymlaen at y genhedlaeth nesaf?
- Cwestiwn i Huw/Robin – Pa arferion sy’n gysylltiedig â physgota Seiont, Gwyrfai, Llyfni? Pa wybodaeth a sgiliau sy’n gysylltiedig? ee. gwybodaeth am natur, crawio plu, enwau lleoedd ayb.
- Cwestiwn i Huw/Robin – Beth mae’r arferion hyn yn golygu i chi? Oes yna cysylltiad gyda hunaniaeth? Llesiant? Synnwyr o le? Beth yw ei arwyddocâd i gymunedau a chymdeithas? Oes yna berthynas gyda’r Gymraeg?
- Cwestiwn i Elen – Sut mae hyn yn cymharu gyda’r gwaith ymchwil?
- Cwestiwn i Huw/Robin – Beth yw gwerth yr arferion hyn at y dyfodol? Beth sy’n sicrhau eu parhad?
- Cwestiwn i Elen – Sut mae hyn yn cymharu gyda’r gwaith ymchwil
- Eifiona i ofyn os hoffai unrhyw un ychwanegu rhywbeth. Oes yna unrhyw gwestiynau gan y gynulleidfa? Crynhoi a diolch.