
CRAWIA - GLANRAFON
Dyma bencadlys y Gymdeithas. Mae maes parcio mawr ar gyfer aelodau cyn y bont, ar ochr Llanrug. Dros y lôn, ac ar lan yr afon, mae Deorfa Crawia. Mae aelodau’n ymgynnull yma am amseroedd bwydo’r pysgod er mwyn hel clecs a sgwrs. Gobeithir adeiladu tŷ clwb yn y maes parcio yn y dyfodol. I fyny o’r bont, mae mynediad i’r lan chwith trwy’r maes parcio. I lawr yr afon o’r bont mae mynediad trwy’r maes carafannau. Trowch i’r dde o flaen y gwaith trin carthion. Mae mynediad i’r lan dde trwy’r llidiart sy wedi ei farcio’n glir.
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()