Adroddiad 2008
Ysgrifennaf yr adroddiad yma ar ddiwedd mis Hydref.Mae llif yn yr afon -a pysgotwyr yn dal i’w gweld ar lannau’r Seiont ar ddyddiau olaf tymor cyffrous .
Roedd hi’n oer eto eleni ar ddechrau’r tymor, ac ambell un yma ag acw oedd hi wrth geiso am frithyll yn yr afon ym misoedd Mawrth ac Ebrill, er bod rhai da wedi eu dal o’r cychwyn ar ein llynoedd.Bu Llyn Padarn yn brysur gydag aelodau ac ymwelwyr yn dal er gwaetha’r oerfel.Wrth iddi gynhesu o’r diwedd yn ystod mis Mai fe roedd Cwellyn a Nantlle hefyd yn gwella a chafwyd lwyddiant drwy’r haf.Nid oedd golwg fod llawer wedi pysgota am y torgoch eleni.
Yn Rhyd Ddu roedd Llyn Dywarchen yn cynnig pysgod o safon uchel.Yn ychwanegol i’r stocio rheolaidd mae’r clwb yn cadw rhai pysgod yn ôl yn y ddeorfa i gynnal y stoc drwy fisoedd yr haf ac mae rhai ohonynt yn bysgod tipyn mwy erbyn daw eu hamser i fynd i’r llyn.Roedd aelodau’n dal yn rheolaidd a nifer dda o’r pysgod trymach yma yn nodwedd o ddaliadau tuag at ddiwedd yr haf.
Yn ystod mis Mehefin dechreuwyd dal sewin yn yr Afon Llyfni.Cafwyd cyfnod hir o ddal cyson.Rydym yn ddiolchgar i’r aelodau oedd wedi clirio’r glannau yn dda rhwng Pontllyfni a’r môr a thrwy wneud hyn roedd digon o le i aelodau ‘sgota yn y nos.Cafwyd nosweithiai prysur iawn ac er cymaint y nifer o bysgotwyr roedd cân y rîl a swn cynnwrf yn y dwr yn awgrymu fod pawb yn dal yn ei dro.Yn nyfroedd uchel mis Awst roedd gwyniadau i’w cael yn y dydd hefyd,a physgota oriau’r nos yn ail ddechrau wedi’r llifogydd. Fe ddaliwyd sewin ar yr Afon Seiont hefyd yn ystod yr haf,sydd yn newyddion da.Criw gymharol fach sydd yn ‘sgota’r Seiont yn benodol am wyniadau bellach.Efallai petai mwy wrthi yn y nos buasai mwy byth yn cael eu dal.
Unwaith eto cawsom law mawr a llifogydd o ddyddiau olaf mis Gorffennaf hyd at ddiwedd y tymor.Roedd dwr uchel yn yr Afon Seiont yn ddi-dor a physgotwyr yn crwydro’r glannau yn rheolaidd ond siomedig ar y cyfan oedd y pysgota eog ar lifogydd “coch Awst”.Ond ym mis Medi fe newidiodd pethau a cafwyd rhediad dda o eog ffres.Un neu ddau yn cael eu dal i ddechrau yn y gwaelodion ac yng Nglan Gwna,ond dim cynffon hyd yn oed i’w weld yng Nghrawia,ond rhedeg a rhedeg wnaeth y pysgod ac yn ystod ail hanner Medi a dechrau mis Hydref daeth eogiaid at y rhwyd ar hyd yr afon.Roedd yn amlwg hefyd bod nifer dda o’r pysgod yn fwy eu maint na’r arfer.Ar un adeg ymddanghosai fel petai mwy o bysgod dros ddeg pwys yn cael eu dal nac o dan y pwysau yma.Mae lluniau rhai o’r pysgod ar wefannau’r Gymdeithas.Hyd y gwyddom doedd dim golwg o’r gleisiaid a aeth o’r ddeorfa y llynedd ond credwn bellach mai tymor nesaf y dychwelant.Wedi disgrifio’r holl gyffro mae’n rhaid dweud fod pethau wedi tawelu yn y dyddiau diwethaf-ysgrifennaf yn nhrydydd wythnos mis Hydref ac er bod dwr da does dim pysgod yn cael eu dal.Mae rhai o’r hen lawia’n deud mae fel hyn bydd hi weithiau- bod y pysgod o dan ein trwynau yn rhuthro am Lyn Padarn ond heb aros yn y pyllau ar eu ffordd.Ond mae’r gwynt a’r glaw yn chwipio’r ffenestr eto rwan ac efallai bydd cyfle arall cyn diwedd y genweirio.
Pleser mawr yw adrodd fod pysgod hefyd wedi eu dal ar yr Afon Gwyrfai.Prin fu’r sôn am yr afon yn yr adroddiadau blynyddol diweddar ond eleni daliwyd eogiaid ar ein dyfroedd ac un aelod o leiaf wedi llwyddo mwy nac unwaith.
I sôn eto am y Llyfni-roedd hi’n amlwg pan oedd y pysgota nos ar ei orau bod ein haelodau ac ymwelwyr yn fodlon cadw pysgodyn neu ddau and yn rhoi’r rhan fwyaf o’r pysgod yn ôl yn yr afon.Mae mwy o sôn pob blwyddyn am ddal a rhyddhau pysgod, sewin, ac yn arbennig yr eog.O fod yn arferiad hollol ddiarth mae bellach yn eithaf cyffredin.Rydym ni wedi bod yn dal a rhyddhau eog ar ddiwedd y tymor ar y Seiont ers mwy na degawd bellach.Mae awgrymiadau y telir ddipyn o sylw yn y dyfodol agos at arferion pysgotwyr ,a’r canran o bysgod sydd yn cael eu rhyddhau.Roeddwn i a’r ysgrifennydd mewn cyfarfod yn ystod yr haf lle cyflwynwyd ffigyrau rhai o afonydd yr ardal.Rydym ni (ar y Seiont)yn rhyddhau canran uwch o’n eogiaid na ‘run afon arall yng Ngogledd Cymru.Yn rhannol mae hyn oherwydd y gorfodaeth sydd yn cyd fynd a’n cyfnod mwayf prysur,ond eto mae’n esiampl o ymarferiad da a chyfrifol ac yn cyfrannu at ddyfodol ein dyfroedd.
Yn sicr, parhau i newid mae’r byd pysgota.Edrychwch ar ddillad a gêr rhai o’r pysgotwyr ar lan llyn neu afon.Sylwch ar y patrymau yn eu bocsys plu.Mae ffefrynnau newydd sydd wedi llwyddo yn gwthio’r hen ffyddloniaid i gornel y bocs.A hwn oedd y tymor cyntaf i mi weld ‘sgotwr wrth sgwrsio yn bodio ffôn symydol i ddangos llun o’i lwyddiant,ond fe’i gwelais sawl tro yn yr wythnosau dwythaf.Does dim yn aros yr un fath.Ar draws y wlad mae rhai’n siarad am Ymddiriedolaethau Afonydd neu Rivers Trusts.Mae rhai ymddiriedolaethau bellach wedi eu sefydlu yng Ngogledd Cymru.Mae’n fyd dieithr a bygythiol medd rhai.Mae’n rhaid gofyn a fuasai mantais i ni fel clwb fynd i lawr y lôn honno?Y prif reswm i feddwl gwneud buasai’r manteision ariannol.Edrychwch yn ôl dros y blynyddoedd diweddar ar brosiectau a gwaith sydd wedi eu cyflawni-glanfeydd,cychod,y ddeorfa a Melin y Cim,a hefyd y gwaith cynefinoedd llai amlwg yn ffensio’r nentydd ym mhen ucha’r dyffrynoedd.Grantiau ac Arian Ewrop sydd wedi ein galluogi i ddatblygu yn y modd yma ond bellach ymddengys y bydd y math yma o gymorth ariannol yn fwy tebygol o’i ranu i sefydliadau sydd ar ffyrf ymddiriedolaeth ardal neu ddalgylch afon nac i glybiau ac unigolion.Mae’n werth pwysleisio na fuasai’r Gymdeithas yn newid na peidio bodoli petai ymddiriedolaeth lleol yn cael ei sefydlu.Ni sydd yn berchnogion ein tiroedd a’n hawlia heddiw ac felly yn union y buasai ar ôl sefydlu ymddiriedolaeth,a fuasai’n gorff hollol ar wahân i’r clwb, yn gweithio er lles y cyhoedd ac efallai yn elusen, ond yn cynnwys cynrychiolaeth gref o’n haelodau. Does dim o gwbl wedi ei benderfynu eto, ac mae’n wir ein bod ni fel clwb ac ardal yn ddipyn llai na rhai ardaloedd eraill sydd wedi sefydlu ymddiriedolaethau yn barod.Er hynny,mae’n bwysig ein bod ni rwan o leiaf yn sbecian i’r dyfodol ac ystyried rhai o’r dewisiadau a fydd efallai yn ein gwynebu yn y blynyddoedd nesaf.Gorau arf,arf dysg ac awgrymaf waith cartref i’r rheini ohonnoch sydd efo cyfrifiadur;ewch i:
http://www.associationofriverstrusts.org.uk/guidance/start_up_guide.htm
I gael blas ar y manteison a’r anfanteision.
Diolchaf ar eich rhan bawb sydd wedi cyfrannu at weithgareddau’r Gymdeithas yn ystod y flwyddyn,y trysorydd,y cyfarwyddwyr ac aelodau’r pwyllgor,yn ogystal a’r rhai sydd yn weithgar tu ôl i’r lleni yn clirio a chynal y glannau a’r cychod.Diolch i’r ddau unigolyn sydd wedi gweithio’n galed ar gynnal ein gwefannau.Hoffwn ddiolch yn arbennig ar ddiwedd y flwyddyn i’r ysgrifenydd am ei waith yn 2008..
Ar ran y Pwyllgor a’r swyddogion hoffwn gynnig y dymuniadau gorau i chi a’ch teuluoedd dros y Nadolig a’r flwyddyn Newydd a phob hwyl gyda’r enwair yn 2009.
Dr. Robin Parry, Chairman